SL(6)256 – Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2022

Cefndir a diben

Mae’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (”Deddf 2019”) yn diwygio’r gyfraith ar addysg a hyfforddiant ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn ailenwi Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn Dribiwnlys Addysg Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i’r setiau a ganlyn o reoliadau wrth i elfennau penodol o Ddeddf 2018 ddod i rym:

(i)            Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002

(ii)           Rheoliadau Addysg (Fforymau Derbyn) (Cymru) 2003

(iii)          Rheoliadau Cynghorau Ysgolion (Cymru) 2005

(iv)          Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2022

(v)           Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012

(vi)          Rheoliadau Dethol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru 2017

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Caiff y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) - ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Yn rheoliad 3(2)(b), nid yw geiriad y ddarpariaeth yn nodi â sicrwydd ble yn y diffiniad o “cynorthwyydd cymorth dysgu”[1] y dylid mewnosod y testun newydd.

 

Mae hyn i’w briodoli i’r ffaith bod “with” yn digwydd mewn dau le yn y diffiniad hwnnw ac felly nid yw dweud bod y testun wedi’i fewnosod ar ôl “with” yn ddigon i wahaniaethu rhyngddynt a nodi’n ble yn union y mae angen mewnosod y testun.

Nid yw’r gwall yn ymddangos yn y fersiwn Gymraeg o’r Rheoliadau.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) - ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae rheoliad 5(2)(a) yn darparu y dylid mewnosod y diffiniadau newydd “yn y lleoedd priodol”.

Fodd bynnag, nid yw’r diffiniadau presennol yn rheoliad 2 o Reoliadau 2005[2] wedi’u rhestru yn nhrefn yr wyddor. Gan hynny nid yw’r lle “priodol” i fewnosod y diffiniadau newydd yn y rhestr bresennol o ddiffiniadau’n ddigon clir.

Nid yw’r gwall yn ymddangos yn y fersiwn Gymraeg o’r Rheoliadau.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Craffu Technegol

Pwynt 1: Rheol Sefydlog 21.2(vi) - ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ac yn derbyn y pwynt a godwyd yn yr adroddiad. Caiff camau gweithredu eu cymryd i ddiwygio’r ddarpariaeth berthnasol ar y cyfle cyntaf fel rhan o raglen barhaus yr is-ddeddfwriaeth a gynhelir er mwyn gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn llawn.


Pwynt 2: Rheol Sefydlog 21.2(vi) - ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r pwynt a godwyd yn yr adroddiad. Caiff camau gweithredu eu cymryd i ddiwygio’r ddarpariaeth berthnasol ar y cyfle cyntaf fel rhan o raglen barhaus yr is-ddeddfwriaeth a gynhelir er mwyn gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn llawn.

 

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

5 Medi 2022

 



[1] Yn Rheoliad 2(1) o Reoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002.

[2] Rheoliadau Cynghorau Ysgolion (Cymru) 2005